R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau argymhellion Comisiwn Williams ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1437(FM)W
2. David Rees (Aberafan):Pa
drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael â
Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch prisiau
ynni?OAQ(4)1440(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar
gyfer GIG Cymru yn 2014?OAQ(4)1429(FM)
4. Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru):Pa
gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r stryd
fawr yng Nghymru yn 2014?OAQ(4)1434(FM)
5. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):Pa dystiolaeth sydd gennych fod dulliau Llywodraeth Cymru i
leihau faint sy’n ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant yn
cael unrhyw effaith gadarnhaol? OAQ(4)1430(FM)
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i ailsefydlu gwasanaethau llawfeddygaeth y colon a’r rhefr yn Ysbyty Bronglais? OAQ(4)1444(FM)W
7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Prif
Weinidog ddatganiad am y cynllun Taith i Waith?
OAQ(4)1432(FM)W
8. Nick
Ramsay (Mynwy):A
wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd
sy’n cael ei wneud yn yr Ardaloedd Menter?OAQ(4)1431(FM)
9. Lynne Neagle (Torfaen):A
wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am
gynigion i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng
Nghymru?OAQ(4)1436(FM)
10. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif
Weinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i
hyrwyddo treftadaeth yng Nghymru? OAQ(4)1443(FM)W
11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen i gynnal
ymchwiliad trylwyr i GIG Cymru?OAQ(4)1433(FM)
12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cysylltiadau
trafnidiaeth yn ne Cymru?OAQ(4)1441(FM)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol gwasanaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghymru? OAQ(4)1435(FM)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1428(FM)
15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran cynllunio i ddileu masnachu mewn pobl yng Nghymru?OAQ(4)1442(FM)